Diwylliant Dewis
Mae Dewis Architecture yn gwmni pensaernïol dwy- ieithog sy’n ymroddedig i arloesedd, cynaliadwyedd
a rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmer.
Ein nôd ydi i dyfu yn strategol, grymuso ein staff, trosoli technegau dylunio arloesol a datblygu i fod ar flaen y gâd o ran darparu atebion pensaernïol pwrpasol yng Nghymru a thu- hwnt.
Creu gofodau hardd ond eto’n weithredol yda ni’n arbenigo ynddo. Rydym yn ymroddedig i gyflawni’r brîff a pharatoi gwasanaeth cwsmer rhagorol ac rydym wastad yn sicrhau bod y broses ddylunio yn un wybodus ac yn un ddi- drafferth i’r cleient.
Y tîm
Gyda dros 22 mlynedd o brofiad, rydym yn cael ein adnabod fel cwmni dwy-ieithog sydd wastad yn cysidro’r cleient fel canolbwynt pob prosiect, sy’n cynnig gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar bensaernïaeth a rheoli prosiect. Rydym wedi ac yn parhau i adeiladu perthnasau cryf gyda’n cleientiaid, yn ogystal â enw da am ragoriaeth. Mae gennym record greg o weithio gydag adeiladau presennol, adeiladau hanesyddol ac rhai newydd hefyd, ac rydym wastad yn greadigol, yn synhwyrol ac yn onest wrth ddylunio. Mae ein prosiectau yn amrywio mewn gwerth o ychydig filoedd i’r miliynau, gan gyd- weithio’n agos gyda phroffesiynnau eraill fel sy’n briodol i’r prosiect dan sylw er mwyn cynnig gwasanaeth un-stop.
Dewi Williams Rheolwr Gyfarwyddwr
BSc(Hons) MRICS, IHBC, MAPM
Leonie Wainwright Cyfarwyddwr, Pensaer Siartredig
BA(Hons) GradDip ADPP RIBA
Rhiannon Williams Cyfarwyddwr Cyswllt, Pensaer
BA(Hons), MArch, MSc(Eng), GradDip ADPP RIBA
Catrin James Uwch Bensaer Siartredig
BA(Hons) DipArch ADPP RIBA
Dewi Hughes Cyfarwyddwr Cyswllt, Technolegwr Pensaernïol Siartredig
MCIAT
Alan Rowlands Uwch Dechnolegwr Pensaernïol Siartredig
BSc(Hons), MCIAT
Aeddan Berry Cynorthwy-ydd Pensaernïol Rhan 2
BA (Hons), MArch (Prof)
Sion Ellis Technolegwr Pensaernïol
BSc(Hons) ACIAT
Bedwyr Davies Technolegwr Pensaernïol
BSc(Hons) ACIAT
Erin Hughes Technolegwr Pensaernïol
BSc (Hons) ACIAT
Rhian Jones Cynorthwy-ydd Pensaernïol Rhan 2
BSc(Hons) MArch
Beca Roberts Cynorthwy-ydd Pensaerniol
Beth sy'n gwneud ni'n unigryw
DEWIS Addysg
Rydym yn gwneud cyflwyniadau yn rheolaidd mewn lleoliadau addysgiadol ac mewn digwyddiadau gyrfaoedd gan ein bod yn angerddol am gyflwyno ein pensaerniaeth i’r genhedlaeth nesaf.
DEWIS Cymuned
Mae bod ynglwm â phrosiectau cymunedol, boed yn ddigwyddiad tîm elusennol neu’n gynnig cymorth i brosiectau cymunedau lleol ein staff, mae’n elfen o’n gwaith yr ydym wastad yn ei fwynhau.
DEWIS Cymraeg
DEWIS Cymdeithasu

Gweithiwch i ni
Dim swyddi ar y funud
Cadwch lygad ar y dudalen am swyddi yn y dyfodol. Rydym wastad yn agored i gysylltu â unigolion talentog, plis gyrrwch eich portfolio dros ebost i [email protected].
Llawrydd
Rydym wastad yn agored i gysylltu â unigolion talentog. Os yda chi’n credo byddwch yn ychwanegu at ein tîm, plis gyrrwch eich portfolio dros ebost i [email protected].