Dyluniad
Cynllunio
Rheolaethau Adeiladu
Datblygu Cysyniad
Datblygiad prosiect
Caniatâd Adeiliad Rhestredig
Astudiaethau Dichonoldeb
Briff prosiect
Mae’r safle Treftadaeth Byd yma’n gefndir dramatig i’r estyniad hwn i’r atyniad presennol.

Manylion dylunio
Nid yw cymeriad y cynlluniau arfaethedig yn annhebyg i’r hyn a welir ar y safle yn barod mewn gwirionedd, gan bod amryw adeilad diwydiannol i’w gweld o amgylch y chwarel, pob un wedi ei adeiladu ar gyfer defnydd pwrpasol ar wahanol gyfnodau. Nid ydi’r deunyddiau arfaethedig yn ceisio adlewyrchu’r rhai a welir ar y safle, ond mae’r ffurf yn llwyddo i wneud hynny. Mae maint yr estyniad yn cyd- fynd â’r Felin/ Sied Dorri, o ran cynllun llawr, o ran hyblygrwydd y gofod mewnol ac hefyd o ran llethr y to, sydd efallai yn fwy dealladwy o’r De na’r Gogledd. O’r Gogledd, mae’r drychiadau yn weddol syml, ac hynny er mwyn arwain llygaid y cwsmer tuag at y fynedfa, sy’n ganolog. Mae’r gymysgedd presennol o garreg a llechi wastad yn cael ei amlygu, hefo’r waliau bloc moel ar cladding plastic yn cael ei ddisodli hefo cladding metal du modern er mwyn clymu’r dyluniad hefo’i gilydd. Mae’r deunyddiau sydd wedi eu dewis yn syml ac yn gynnil er mwyn amlygu’r pileri llechi, ac hefyd er mwyn rhoi elfen fodern i ddangos y rhan newydd o’r adeilad. Teimlor bod y cladding tywyll yn erbyn y gwydr a’r lechen yn syml ac yn adlewyrchu’r hyn sydd o’i gwmpas.

Lleoliad:
Llinell amser:
Statws:

Diddordeb mewn gweithio gyda'n gilydd?
Llenwch y ffurflen ac fe wnawn ymateb o fewn 48 awr.
Gwaith arall
Adeilad Pencadlys Newydd
Masnachol
Melin Bodnant
Treftadaeth, Cadwraeth
Datblygiad Central Buildings
Cymunedol, Masnachol, Cadwraeth
Mae DEWIS wedi gweithio gyda ni ar nifer o brosiectau sy’n darparu gwasanaethau pensaernïol o’r cychwyn cyntaf i gynlluniau sydd wedi’u cwblhau’n llawn. Maent wastad yn broffesiynol ac yn ymgysylltol er mwyn darparu cynnyrch o ansawdd uchel. Maent yn rhannu ein hangerdd dros arloesi ac wedi bod yn ymwneud yn agos â’n cynlluniau modiwlar ar gyfer cartrefi nad ydynt wedi eu hadeiladu ar safle.
David Kelsall, Cartrefi Conwy