Ein gwasanaethau
Sut y gallwn helpu
Rydym yn dod a gwasanaethau Penseiri Siartedig, Syrfewyr Adeiladu Siartredig, Technolegwyr Pensaernïol, Ymgynghorwyr Adeiladau Hanesyddol (IHBC), Rheolwyr Prosiect ac Aseswyr Ynni at ei gilydd er mwyn paratoi gwasanaeth cyflawn, ar gyfer cleientiaid preifat a chyhoeddus. Rydym yn gweithio mewn amryw sector gan gynnwys Treftadaeth, Hamdden, Tai, Addysg, Masnachol a Mân-werthu.
Ein proses
Deall eich gofynnion a'ch gweledigaeth
Y cam cyntaf yn ein proses ddylunio yw eich deall chi. Fe ddechreuwn drwy gynnal sgwrs er mwyn deall eich nôd, gweledigaeth, anghenion ac unrhyw heriau sydd gennych, gan amlaf, wyneb yn wyneb, neu yn well byth, ar y safle. Boed i chi fod eisiau dylunio tŷ, swyddfa neu ofod cyhoeddus, rydym yn gwrando’n astud er mwyn sicrhau ein bod yn deall eich anghenion, ffordd o fyw a gwerthoedd. Fe ofynnwn yn aml i gleientiaid gysidro eu cyllideb, yr hyn maent ei ‘angen’ ac hefyd ‘eisiau’ yn ystod y cyfnod hwn.
Datblygu cysyniad
Wedi casglu gwybodaeth am y safle a chomisiynnu’r adroddiadau/ arolygon angenrheidiol, hwn yw’r cam yr yda ni’n dechrau arborfi hefo gwahanol ddyluniadau, syniadau a themâu, gan gymryd ysbrydoliaeth o’ch syniadau a’ch cyfraniad chi a chyfuno hynny hefo’r syniadau diweddar ac egwyddorion pensaernïol bythol-wyrdd. Ein nôd ydi creu cysyniad sy’n apelgar yn weledol ond hefyd yn gynaliadwy, yn ymarferol ac yn addas.
Cydweithio a mireinio
Yma yn DEWIS Architecture mae’r broses ddylunio yn sgwrs ddwy-ffordd. Rydym yn cyflwyno ein cysyniad cychwynol er mwyn derbyn adborth gennych chi. Mae’r cam yma’n un hanfodol wrth i ni berffeithio’r dyluniad ac ymateb i’ch barn. Boed chi’n edrych i newid deunyddiau, gwneud mân- newidiadau i’r dyluniad mewnol neu fireinio elfennau penodol, fe weithiwn gyda’n gilydd fel bod y dyluniad yn cyd- fynd â’ch gweledigaeth.
Cyflwyno a chyfathrebu
Boed ni’n rheoli’r broses gynllunio ar eich rhan neu’n cyd- weithio gyda ymgynghorwyr allanol, rydym yn sicrhau ein bod yn cyflwyno’r lefel briodol o wybodaeth ar gyfer y cam hwnnw. Gall ddelio hefo ceisiadau cynllunio neu cheisiadau rheoli adeiladu fod yn gymhleth, ond rydym yn symleiddio’r broses i chi drwy reoli’r broses ar eich rhan, a hynny tra’n gwneud yn siŵr eich bod yn cael gwybod am unhryw ddatblygiad.
Rheoli cyllideb a chostau
Rydym yn parchu eich cyllideb ac yn cynnig dyluniad sydd yn llwyddiannus o fewn y terfynnau hynny. Mae gennym wybodaeth gyffredinol am gostau adeiladu lleol diweddar, ac mi fedrwn gynnig ganllawiau costau realistig fel rhan o’n gwaith, i’ch helpu i wneud penderfyniadau deallus ac osgoi costau annisgwyl.
Cydweithio â gweithwyr proffesiynol dibynadwy
Pan fo mewnbwn gan ymgynghorwyr costau allanol ei angen, o Syrfewyr Meintiau, Peirianwyr Strwythurol i Gontractwyr, rydym yn cyd- weithio ac yn rheoli’r broses o gyfathrebu a delio hefo arbenigwyr cymeradwy er mwyn dod â’ch prosiect yn fyw, drwy gyflwyno’r trydydd parti priodol ar gam priodol o fewn y broses ddylunio.
Cyfathrebu clir ac agored
Rydym yn credu mewn trafodaethau hygyrch a ddi-jargon, sy’n sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus ac yn wybodus ar bob cam. Rydym wastad yn croesawu cwestiynau ac adborth, gyda’r nôd o wneud y broses ddylunio yn brofiad pleserus a diddorol.
Eich cefnogi o'r cysyniad i'r cwblhau
Boed chi angen cymorth i ddelweddu eich syniadau, dewis deunyddiau neu gor-weld yr adeiladu, mi yda ni hefo chi pob cam o’r ffordd, yn eich cynnal er mwyn sicrhau bod y canlyniad terfynol yn un sydd yn rhagori ar eich disgwyliadau.
Ein proses ddylunio
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Aliquam congue sem est, sit amet malesuada odio porta eu. Aenean nisl arcu, molestie quis turpis tristique, malesuada dictum nulla. Vestibulum ornare mattis metus. Maecenas id elementum felis. Duis ac efficitur velit. Mauris eu porttitor eros. Praesent tristique a risus in eleifend. Aliquam ipsum massa, commodo vel sapien a, venenatis maximus ipsum.